PWY YDYM NI...
Ni yw Ysgol Plant y Brics, prosiect gymunedol sy`n cefnogi teuluoedd mudol sy`n gweithio yn y ffatrioedd briciau yn Nyffryn Kathmandu , Nepal.
Trwy weithio gyda`n partneriaid gallwn gynnig addysg a gofal iechyd i blant y gweithwyr ynghyd a llythrenedd a datblygiad sgiliau i oedolion.

EIN GWELEDIGAETH...
Ein uchelgais yw cynnig i`r plant seibiant o`r gwaith corfforol galed, addysg sylfaenol o safon mewn awyrgylch hapus.
Ein nod yw sicrhau fod pob plentyn yn cyrraedd ei botensial yn ogystal a rhoi siawns iddynt fod yn blant.

NEWYDDION DIWEDDAR
Mae`r Galeri yn cynnwys tros ddeg-ar-hugain o luniau newydd a gomisiynwyd oddiwrth Joytsana Simha Thakuri-ffotograffydd ifanc o Nepal
Gwobr i Ymddiriedolwyr Ysgol Plant y Brics/Kopila Nepa
Cafodd dau o Ymddiriedolwyr Ysgol Plant y Brics/Kopila Nepa eu gwobrwyo gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam fel rhan o’u gwobrau blynyddol i unigolion a chyrff sy’n gweithredu ym Mwrdeisdref Sirol Wrecsam.
Cyflwynwyd tystysgrifau i gydnabod ymdrechion pobl o’r Sir fu’n cynnig gwasanaeth gwirfoddol i gefnogi eraill.
Phil Miller, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr, a mm no no Janet ac Edgar Lewis am y wobr am eu ymdrechion gwirfoddol tros ugain mlynedd i helpu Ysgol Plant y Brics/Kopila Nepa.
Rhoddwyd y tystysgrifau iddynt yn ystod cyfarfod blynyddol CMGW/AVOW yng Nghanolfan Gynadledda Coleg Tal mewn seremoni pan oedd Prif Weinidog Cymru yn bresennol.
Llongyfarchiadau i Janet ac Edgar a llawer o ddiolch iddynt am eu cefnogaeth diflino i Ysgol Plant y Brics/Kopila Nepa o’r dechrau un hyd at eu ymddeoliad o fwrdd yr Ymddiriedolwyr yn ddiweddarki

Noder
Noder bod pob digwyddiad a fwriadwyd ar gyfer codi arian i`r elusen wedi eu gohirio oherwydd effaith cofid-19.
Cadwch eich llygaid ar y dudalen hon am fwy o wybodaeth pan fydd y sefyllfa yn newid.
Cafodd Edgar y cyfle i ymddangos ar " Prynhawn Da" ar S4C ar 7fed Gorffenaf i siarad am yr ysgol ac am y cyhoeddiad isod.
Os am noddi Ysgol Plant y Brics ewch i`n tudalen Noddi ar y wefan i weld y gwahanol ffyrdd i wneud hynny.
Estynwn ei diolch i bawb sydd wedi parhau i noddi a chefnogi`r elusen yn ystod y cyfnod dyrys a wynebodd pawb yn ystod y flwyddyn diwethaf. Mae mwy a mwy o gyfraniadau ariannol yn dod i mewn i`r elusen trwy ddulliau electronig ac yn aml mi fydd hi yn amhosibl i ni ddiolch pawb yn bersonol. Byddwch yn sicr fod eich cyfraniadau yn bwysig i ni fel elusen a`n bod ni fel Ymddiriedolwyr yn ddiolchgar iawn am eich help bob amser.
Da yw gwybod bod 125 o blant yn dal i gael addysg mewn pedair ysgol lloeren ar waethaf y pandemig.
Cefnogwch ni trwy
siopa efo
AMAZON
Cefnogwch Ysgol Plant y Brics (Tikathali)
trwy siopa trwy smile.amazon.co.uk
EWCH I`N GWEFAN SAESNEG AM FANYLION PELLACH

BETH A WNAWN |
YR YMDDIRIEDOLWYR |
NODDWCH |