Mae’r modd y mae prosiect Ysgol Plant y Brics/ Kopila Nepa yn cael ei ariannu yn newid. Cafodd ein partneriaid Nepalaidd o’r blynyddoedd cyntaf y cyfle I weithio gydag elusen o Sbaen, y Vicente Ferrer Foundation. Mae gan yr FVF y gallu ariannol , yr ynni a’r awydd a’r uchelgais i ymhelaethu ar waith Kopila Nepa.
Ein bwriad ni fel elusen Ysgol Plant y Brics o’r cychwyn oedd i hwyluso gwaith ac i gynnnig help ariannol î’n partneriad a’n harbennigwyr yn Nepal. Mae’ n holl bwysig cydnabod y dylai penderfynniadau ynglyn a gwariant yn y dyfodol gael ei wneud gan ein arweinwyr yn Nepal.
Ar ol dros 20 mlynedd o bartneriaeth ardrawiadol, a chyda chytundeb ein partneriaid yn Kopila Nepa mae Bwrdd Elusennol Ysgol Plant Y Brics wedi penderfynnu fod yr amser yn briodol i greu strategaeth drefnus i ddod a’u diddoreb hwy yn yr ysgol i ben ac i gydweithio tros y misoedd nesaf i drosglwyddo’r awennau i’r partneriaid newydd yn hwylus a threfnus.
Mae’r noddwyr Sbaenaidd eisoes wedi dechrau ar y gwaith ac mae cyfnod prawf eisoes ar droed. Yn ystod y cyfnod hyn mi fyddwn ni yn parhau i ariannu elfennau o’r gwaith i’n lefel arferol. Bydd hyn yn cynnwys costau staffio, costau arweiniad , y gwersi gwnio i’r gwragedd a fu yn elfen mor drawiadol o waith yr elusen.
Rydym yn hapus tros ben i ddeall y bydd Kopila Nepa yn cael y cyfle i barhau i ymhelaethu ar y gwaith a wnaed eisoes ac y bydd nifer o bartneriaid yn helpu i gynnal y gwaith gan gynnwys The Belgian Brick Children School, Rotari ac yn awr FVF.
Mae ein cenhadaeth yn dal yn glir ,sef i gefnogi ein partneriaid i gael plant i fanteisio ar addysg, a gwragedd i fewn i fusnes-bydd hyn yn parhau hyd at 2027
Dhanyabad, diolch, thank you am eich cefnogaeth cyson a hael.