Ysgol Plant y Brics - Fersiwn Cymraeg
  • Hafan
  • Beth A Wnawn
  • Ymddiriedolwyr
  • Cysylltwch A Ni
  • Noddi
  • Saesneg

EIN YMDDIRIEDOLWR...

Os yr hoffech wybod mwy am ein ymddiriedolwr cysylltwch a ni. 
Picture

CAROLE GREEN

Newyddiadurwraig yw Carole a dyfodd i fynny yn Rhyl yng Ngogledd Cymru. Bu`n gweithio ym myd papurau newydd, radio a theleduBBC ac ITV) Mae`n frwdfrydig iawn ym maes Datblygiad Rhyngwladol yn enwedig felly ym meysydd addysg plant a menywod. Mae Nepal yn agos iawn at ei chalon ers ei phrofiad cynnar o `drecio` yno gyda`i thad.
Picture

EDGAR LEWIS

Ganed ac addysgwyd Edgar mewn ysgolion cynradd ac uwchradd bychain yng nghanolbarth Cymru. Gradd B.A. o Brifysgol Aberystwyth mewn Addysg. Cyn athro, Darlithydd,. Dirprwy Gyfarwyddwr Addysg a Chfarwyddwr Addysg a Diwylliant. Yn briod a Janet gydag un mab, Gareth(sy`n Uwch Arolygydd Eiddo Deallusol-Intellectual Property)
Diddordebau yn cynnwys ffotograffiaeth, trafeilio, a hanes lleol.
Yn Flaenor, aelod a glybiau Rotari, Probus a Phrifysgol y Trydydd Oedran, Wrecsam.

​
Picture

JANET LEWIS

Wedi cael ei haddysg yn siroedd Dinbych a Maldwyn a Phrifysgol Aberystwyth mae Janet wedi ymddeol o fod yn Ddirprwy Brifathrawes.ysgol babanod. Mae ei hymrwymiad i addysg plant ifanc yn dal yn gryf er ar gyfandir gwahanol erbyn hyn. Mae`n cael pleser arbennig o weld y datblygiad yn Ysgol Plant Y Brics y bu hi yn ymweld a hi ddwywaith. Mae Janet yn aelod o Rotari a bu`n Ysgrifennydd Rhaglen Siaradwyr Prifysgol y Trydydd Oedran,Wrecsam, Cadeirydd Grwp Cefnogi`r Hosbis lleol, yn rhedeg grwp darllen ac yn Aelod o Merched y Wawr.
Picture

PHIL MILLER

Cyn brifathro cynradd a fu`n gweithio yn ardal Wrecsam ers y 1970au. datblygodd ei ddiddordeb yn Nepal trwy gyfeillgarwch hir dymor gyda Bimal Shresthra, ymgynghorydd i Ysgol Plant y Brics yn Kathmandu.. Gwraig Bimal, Anita, yw Pennaeth yr ysgol honno. Mae Phil wedi bod yn ymddiriedolwr ers tros  10 mlynedd ac wedi rhoi llety i ymwelwyr o Nepal yn ei gartref tra yn cynnig cyngor iddynt i wella a datblygu eu sgiliau dysgu.
Picture

MARIAN WILLIAMS

Yn athrawes am dros 40 o flynyddoedd mewn ysgolion uwchradd yn Ne Orllewin a Gogledd Cymru a Sir Gaer. Mae Marian wedi bod a diddordeb mewn trafeilio a diwylliannau gwahanol ar draws y byd ers iddi gael ei ysbrydoli fel merch 8 oed gan athro o Nigeria yn siarad a hi. Cymerodd rol mwy blaenllaw wrth arwain pynciau byd eang fel rhan o gwrs PSHE yn Ysgol Uwchradd Penarlag . Daeth cyfle i ymweld ag Ysgol Plant y Brics fel rhan o gysylltiad a Chlwb Rotari Wrecsam Ial a dechreuodd gasglu arian i helpu i gynnal yr ysgol. Hefyd mi sefydlodd bartneriaeth gydag Ysgol Uwchradd yn Sanku yn Nepal..
Picture

PETER BLAKEMORE

Cyfreithiwr yw Peter. Mae wedi bod yn Ymddiriedolwr ers pum mlynedd bellach a`i obaith yw gweithredu fel ymddiriedolwr am flynyddoedd i ddod..​
Picture

TERRY WALES

Cyn Brifathro Uwchradd yw Terry gyda phrofiad o gynghori y Cynulliad yng Nghymru ar Addysg. Ef yw Trysorydd elusen Ysgol Plant y Brics ac mae ganddo brofiad eang o bwyllgora trwy Rotari ac fel cyn-Gadeirydd Prifysgol y Trydydd Oedran yn Wrecsam.
Mae`n yrrwr uwchraddol efo`r IAM

Picture
Picture
Picture

​ENID ASTLEY

Ymgynghorydd a Thiwtor yw Enid Astley. Yn enedigol o Gaer ond a fu`n byw a gweithio yng Ngogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr am flynyddoedd. Mae ganddi ddiddordeb mewn addysg menywod a phlant. Mae ei chariad at drafeilio wedi mynd a hi i lawer man yn y byd ond mae ganddi ddiddordeb arbennig yn Nepal a bu`n gwirfoddoli mewn cartref i blant ac fel ymwelydd ag Ysgol Plant y Brics yn 2014.

KATHRYN TRESILIAN

Ymddiriedolwr Ysgol Plant y Brics ers 2018. Golygydd cynnwys
i ITV Cymru yng Nghaerdydd ac yn arwain ar faterion digidol a chyfryngau cymdeithasol i Ysgol Plant y Brics.
​
​Ymwelodd a`r ysgol yn 2017 a gwnaeth gyfres o ffilmiau nodwedd a ymddangosodd ar "ITV Wales at Six"   

​LOUISE HARPER

​Mae gan Louise tros 30 mlynedd o brofiad mewn bancio yn Wrecsam a`r cylch. Mae hi`n aelod gweithgar o Glwb Rotari Wrecsan Ial gyda brwdfrydedd at gasglu arian at elusenau ym Mhrydain a thramor.

BETH A WNAWN

EIN YMDDIRIEDOLWYR

NODDI

CYSYLLWCH A NI

Ebost: info@brick-children-school.org.uk
​ Ffon: 01978 359 681
Rhif cofrestredig yr elusen: 1097055
Powered by Create your own unique website with customizable templates.