Ysgol Plant y Brics - Fersiwn Cymraeg
  • Hafan
  • Beth A Wnawn
  • Ymddiriedolwyr
  • Cysylltwch A Ni
  • Noddi
  • Saesneg

BETH A WNAWN.....

Rydym yn gweithio efo teuluoedd gweithwyr mudol sy`n trafeilio o droed yr Himalayas i Ddyffryn Kathmandu i wneud briciau.
Yn ystod y tymor sych mae`r teuluoedd yn byw mewn cartrefi tros dro heb na thrydan, dwr glan na charffosiaeth.

​RYDYM YN DARPARU...

Picture

ADDYSG

Picture

TOILEDAU GLAN

Picture

ARCHWILIAD MEDDYGOL RHEOLAIDD

Picture

GWISG YSGOL

Picture

BWYD A DWR GLAN

Picture

SGILIAU BUSNES I WRAGEDD

Picture

I OEDOLION...

 Nid y plant yn unig sy`n elwa o Ysgol Plant y Brics. Cynnigiwn wersi ymarferol i oedolion yn ogystal. Enghraifft o hyn yw`r dosbarthiadau gwnio i wragedd o`r fatrioedd briciau a`r pentref cyfagos. Mae hyn yn ychwanegol i`r gwersi llythrenedd i oedolion a`r rhaglen datblygu sgiliau.
Trwy wneud hyn rydym wedi anogi grwpiau o wragedd i sefydlu busnesau, ac yn helpu`r teuluoedd allan o dlodi dirfawr.
Rhoddir cymorth a chyngor ar faterion iechyd yn ogystal. 
Picture

I`R PLANT...

Cyn i`r ysgol gael ei sefydlu yn 2001 byddai addysg y plant yn cael ei atal am tua 6 mis bob blwyddyn gan fod y plant yn gweithio ochr yn ochr a`u rhieni i gynhyrchu tua 1000 o friciau y dydd. Wrth fynd yn ol i`w pentrefi roedd y plant yn aml yn peidio mynychu`r ysgol leol gan eu bod wedi syrthio yn bell yn ol yng nghwrs  gwaith yr ysgol.
Erbyn hyn yn Ysgol Plant y Brics maent yn cael addysg, cyfle i adeiladu sgiliau fydd o help i osgoi`r cylch tlodi. Bellach rydym wedi gweithio efo tros 1000 o blant a`u teuluoedd.

SUT Y GWNAWN HYN....

Gweithiwn gyda ein partneriaid yn Nepal, sef Kopila Nepa, sy`n gorff cofrestredig dan Lywodraeth Nepal. Mae partneriaid  eraill yng Ngwlad Belg sydd a`r un weledigaeth. Gyda`n gilydd rydym yn darparu ysgol/canolfan gymunedol, cyflogi athrawon Nepaliaidd gyda chymwysterau dysgu o`r safon orau I gynnal yr holl raglenni a gynnigir.
​Yn y DA rydym yn elusen gofrestredig (rhif 1097055) gyda gwirfoddolwyr di-dal. Nid oes unrhyw gostau cynnal swyddfa felly gellir buddsoddi pob ceiniog er budd y plant a`u rhieni 

BETH FEDRWCH CHI EI WNEUD?

Rydym yn ymroddedig i`r gwaith. Gallwch chi ein helpu. Gallwch roi o`ch amser a`ch sgiliau. Gallwch gael hwyl wrth godi arian-gallwn ni eich helpu yn hyn o beth. Gallwn gynnig syniadau, siaradwyr a chymorth ymarferol . Beth am gasglu eich ffrindiau at eu gilydd a mentro!
Hefyd, gallwch noddi ein gwaith. Bob blwyddyn mae £60 yn cynnal un plentyn yn yr ysgol. Mae noddi cyson yn bwysig i ni. Trwy hyn gallwn gynllunio at y dyfodol.
Cysylltwch a ni heddiw.

BETH A WNAWN

YMDDIRIEDOLWYR

NODDI

CYSYLLTWCH A NI

Ebost: brickchildrenschool@gmail.com
​ Ffon: 07960 015147
Rhig cofrestredig yr Elusen: 1097055
Powered by Create your own unique website with customizable templates.