Ymddiriedolwyr
Phil Miller
Edgar Lewis
|
Cyn brifathro cynradd a fu`n gweithio yn ardal Wrecsam ers 1970au. Datblygodd ei ddiddordeb yn Nepal trwy gyfeillgarwch hir dymor gyda Bimal Shresthra, ymgynghorydd i Ysgol Plant y Brics yn Kathmandu. Gwraig Bimal , Anita, yw Pennaeth yr ysgol honno. Mae Phil wedi bod yn Ymddiriedolwr ers bron i 10 mlynedd ac wedi rhoi llety i ymwelwyr o Nepal yn ei gartref tra yn cynnig cyngor iddynt i wella a datblygu eu sgiliau dysgu. Ymwelodd a Nepal bedair o weithiau ac mae`n helpu`r staff gyda datblygu`r cwricwlwm a threfniant yr ysgol.
Ganed ac addysgwyd Edgar mewn ysgolion cynradd ac uwchradd bychain yng Nghanolbarth Cymru.Gradd B.A. o Brifysgol Aberystwyth mewn Addysg. Cyn athro, darlithydd, Dirprwy Gyfarwyddwr a Chyfarwyddwr Addysg. Yn briod a Janet gydag un mab, Gareth (yn Uwch Arolygydd Eiddo Deallusol- Intellectual Property) Diddordebau yn cynnwys ffotograffiaeth, trafeilio a hanes lleol. Yn Flaenor, aelod o glybiau Rotari a Probus a Phrifysgol y Trydydd Oedran yn Wrecsam. Newyddiadurwraig yw Carole a dyfodd i fynnu yn Rhyl yng Ngogledd Cymru. Bu`n gweithio ym myd papurau newydd, radio a theledu (BBC ac ITV) Mae`n frwdfrydig iawn ym maes Datblygiad Rhyngwladol yn enwedig felly ym meysydd addysg i blant a menywod. Mae Nepal yn agos iawn at ei chalon ers ei phrofiad cynnar o "drecio" yno gyda`i thad. Cyn Brifathro uwchradd yw Terry gyda phrofiad o gynghori Llywodraeth y Cynulliad yng Nghymru ar addysg. Ef yw Trysorydd elusen Ysgol Plant y Brics ac mae ganddo brofiad eang o bwyllgora trwy Rotari ac fel Cadeirydd Prifysgol y Trydydd Oedran Wrecsam. Mae`n yrrwr uwchraddol gyda`r IAM. Wedi cael ei haddysg yn siroedd Dinbych a Maldwyn a Phrifysgol Aberystwyth mae Janet wedi ymddeol o fod yn Ddirprwy Brifathrawes Ysgol Babanod. Mae ei hymrwymiad i addysg plant ifanc yn dal yn gryf er ar gyfandir gwahanol erbyn hyn. Mae`n cael pleser arbennig o weld y datblygiad yn Ysgol Plant y Brics y bu hi`n ymweld a hi ddwywaith. Mae Janet yn aelod o Rotari, ysgrifennydd rhaglen siaradwyr Prifysgol y Trydydd Oedran, Wrecsam, cadeirydd grwp cefnogi`r Hosbis lleol, yn rhedeg grwp darllen ac yn aelod gweithgar o Merched y Wawr. Cyfreithiwr yw Peter. mae wedi bod yn ymddiriedolwr ers tair blynedd bellach a`i obaith yw gweithredu fel ymddiriedolwr am flynyddoedd i ddod. Yn athrawes am dros 40 o flynyddoedd mewn ysgolion uwchradd yn ne,gorllewin a gogledd Cymru a hefyd yn Sir Gaer. Mae Marian wedi bod a diddordeb mewn trafelio a diwylliannau gwahanol ar draws y byd ers iddi gael ei hysbrydoli fel merch 8 oed gan athro o Nigeria fu yn sgwrsio a hi. Cymerodd rol mwy blaenllaw wrth arwain pynciau byd eang dadleuol fel rhan o gwrs PSHE yn Ysgol Uwchradd Penarlag.Daeth cyfle i ymweld ag Ysgol Plant y Brics fel rhan o`r cysylltiad a Chlwb Rotari Wrecsam Ial a dechreuodd gasglu arian i helpu i gynnal yr ysgol. Hefyd mi sefydlodd bartneriaeth gydag ysgol uwchradd yn Sanku yn Nepal. |
Enid Astley |
Ymgynghorydd a Thiwtor yw Enid Astley. Yn enedigol o Gaer ond a fu`n byw a gweithio yng Ngogledd Cymru a Gogledd Orllewin Loegr am flynyddoedd. Mae ganddi ddiddordeb mewn addysg menywod a phlant. Mae ei chariad at drafeilio wedi mynd a hi i lawer man yn y byd ond mae ganddi ddiddordeb arbennig yn Nepal a bu`n gwirfoddoli mewn cartref i blant ac fel ymwelydd ag Ysgol Plant y Brics yn 2014. |