Newyddion am y Ddaeargryn Bellach mae newyddion yn dod oddiwrth ein ffrindiau yn Nepal. Mae llawer o ddifrod yn yr ardal o gwmpas yr ysgol,yn enwedig yn y tai mwd a brics traddodiadol, ac mae nifer o ddaeargrynoedd bach yn parhau. Bu nifer o farwolaethau yn y strydoedd cul nepell o`r ysgol ond ymddengys fod aelodau o gymuned yr ysgol ei hun i gyd yn saff.Mae`r bobl yn byw y tu allan i`w tai mewn pebyll tros dro. Defnyddir yr ysgol fel lloches i`r gymuned lleol. (Wele`r lluniau uchod). Bu Elusen Ysgol Plant y Brics yn gweithio yn Nepal am bymtheg mlynedd yn cynnig addysg a hyfforddiant i blant ac oedolion y gymuned fudol sy`n gwneud briciau yn Nyffryn Kathmandu. Yn unol ag amcanion yr elusen anfonwyd rhodd brys o £3600 i`w weinyddu gan ein ffrindiau yr ymddiriedwn ynddynt,sef Anita (Pennaeth) a`i gwr, Bimal. Oherwydd haelioni ein noddwyr mi rydym wedi anfon rhagor o arian i Nepal ac mi rydym ar hyn o bryd yn paratoi cynllun hir dymor o gymorth i`r gymuned. Bu daeargryn arall sylweddol ar 12fed Mai yn rhoi pwysau pellach ar wasanaethau yn yr ardal. mae Ysgol plant y Brics yn parhau i gael ei defnyddio fel lloches. Mi fyddwn yn diweddaru`r dudalen hon o dro i dro. Am y newyddion diweddaraf o Nepal ewch i`n linc ni ar Facebook. ( does dim angen agor cyfrif Facebook i wneud hyn). Prosiect bwydo Plant Yn dilyn digwyddiad `Brickjam` yng Nghaerdydd ym mis Ionawr a chyda cymorth y Waterloo Foundation cychwynwyd prosiect i gynnig prydau (tiffin) i blant y cylch. Gall y plant fod yn yr ysgol am chwe awr heb fwyd gan nad yw eu rhieni yn abl i dalu am fwyd. Bu cysylltiad rhwng Ysgol Plant y Brics ag Ysgol Siddhimangal ers rhai blynyddoedd.Yn y tymor gwlyb ( Mai i Hydref), pa fo`r ysgol ar gau, mae rhai o`r disgyblion yn aros yn Nyffryn Kathmandu yn cael hyfforddiant ychwanegol mewn partneriaeth ag Ysgol Siddhimangal. Cynnigir dosbarth paratoadol ar gyfer plant oedran meithrin. Bydd tua 150 o blant yn elwa o`r prosiect hyn. |
|