Datblygiadau diweddar
Ers pan y cofrestrwyd yr ysgol fel elusen mae`r gweithgareddau i gyd yn cael eu rhedeg trwy arian a godir gan wirfoddolwyr yn Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Cedwir y costau gweinyddol i`r lleiafswm posibl.
Mae`r ysgol yn gweithio ar gyllideb a gytunir gan yr Ymddiriedolwyr yng Nghymru a throsglwyddir yr arian i Nepal ble y telir cyflogau`r athrawon ac y prynir cyfarpar yn lleol. Gwneir hynny gan y Corff Llywodraethol.
Buom yn ffodus tros ben i gael cymorth grwp o Wlad Belg i ariannu adeilad newydd i`r ysgol-adeilad y medrir ei ddadgymalu a`i symud i safle arall pan fo`r galw am hynny.
Mae bws mini wedi ei brynu i helpu`r plant i fynd a dod o`r ysgol ac i fwynhau gweithgareddau allanol.
Bu hefyd gydweithrediad gyda cwpl o`r Almaen sy`n ariannu dosbarth meithrin a derbyn mewn adeilad cyfagos.
Ychwanegir at hyn trwy roddion gan ymwelwyr a`r ysgol a chan wirfoddolwyr yn y D.U.
Yn dilyn y ddaeargryn yn 2015 defnyddiwyd yr ysgol fel lloches i bobl leol.
Bellach mae`r adeilad yn cael ei ddefnyddio at y pwrpas gwreiddiol fel ysgol. Er hyn mae`n dal i fod yn adnodd pwysig i`r gymuned leol.
Rhif yr Elusen 1097055