Hanes Cynnar Ym Mis Mawrth 2000 ymwelodd David Phoenix,Swyddog Addysg o Sir Ddinbych a Nepal ble y gwelodd gannoed o blant yn gweithio ochr yn ochr a`i rhieni ar feysydd briciau Kathmandu yn gwneud briciau a llaw. Roeddynt yn byw a gweithio mewn amodau erchyll. Darganfyddodd David nad oedd unrhyw ddarpariaeth addysgol i`r plant ac ar ol dychwelyd i`r D.U. penderfynodd godi arian i wella bywyd `plant y brics` fel ei gelwid hwy o`r dechrau. Daeth yr arian i mewn yn gyson trwy deithiau cerdded noddedig, boreau coffi a chyngherddau-ac yn fuan iawn darbwyllodd David Gyfarwyddwr Addysg y sir, Edgar Lewis, i ymuno ag ef ar daith i Nepal. Yn dilyn yr ymweliad crewyd prosiect peilot gyda`r bwriad o benderfynu a oedd sefydlu ysgol yn Tikathali yn bosibl. Cefnogwyd y prosiect gan Glybiau Rotari Yala (Patan) a Wrecsam Ial a`r Groes Goch yn Kathmandu. O`r dechrau mi roedd galw mawr am gofrestru plant yn yr ysgol ac ar sail y llwyddiant cynnar penderfynwyd cofrestru fel elusen yn y D.U. ac i greu perthynas gyda`r New Help Association yn Nepal i weithredu fel Corff Llywodraethol i`r ysgol. Ymunodd Pamela Valentine (Cyfreithwraig) a David ac Edgar fel ymddiriedolwyr a`i gweledigaeth hwy oedd agor yr ysgol i fwy o blant ac i gynnig cyrsiau allanol i rieni`r plant. Bellach mi roedd ysbrydoliaeth David yn dod yn realiti. Erbyn 2009 tyfodd yr ysgol o 89 i dros 200 o blant rhwng pedair a phedair ar ddeg oed ac o ddwy i saith o athrawon gydag un dosbarth gwnio yn tyfu i ddosbarthiadau llythrennedd,sawl dosbarth gwnio, dosbarth cymorth cyntaf a dosbarth ymwybyddiaeth iechyd. Mae`r holl athrawon wedi bod ar gyrsiau addysg mewn swydd ac ar ymweliadau ag ysgolion eraill gan gynnwys ymweliadau a Chymru. Bydd cyfleoedd pellach i wneud hyn trwy gyllideb o`r elusen. Mae diolch arbennig i Anita, Renu, Saruta, Sanita, Bijeye a Parmila am eu gwaith caled. Rhif yr elusen 1097055