Ysgol Plant y Brics - Fersiwn Cymraeg
  • Hafan
  • Beth A Wnawn
  • Ymddiriedolwyr
  • Cysylltwch A Ni
  • Noddi
  • Saesneg

स्वागत

Croeso i safwe Ysgol Plant y Brics, Sanogaown, Nepal

Swagatam -"croeso" mewn Nepali
Pwy ydym ni?
 Ni yw Ysgol Plant y Brics. Prosiect Cymunedol sy`n cefnogi teuluoedd mudol sydd yn gweithio ar y meysydd briciau yn Nyffryn Kathmandu yn Nepal. Cynnigiwn addysg a gofal iechyd i`r gweithwyr ifanc a`i teuluoedd a chyfle i ddatblygu sgiliau a llythrennedd yr oedolion. `Rydym wedi bod yn cynnig hyn ers 2001. Mae gennym lawer o gefnogwyr sy`n casglu arian ac yn noddi ysgol Plant y Brics.

Ein cenhadaeth
Ein pwrpas yw cynnig seibiant i ddisgyblion o`r gwaith dibaid a chyfle i gael addysg sylfaenol mewn amgylchedd hapus a saff. Ceisiwn helpu pob plentyn i gyrraedd ei botensial ac i roi cyfle iddynt fod yn blant.


Rhif Cofrestredig yr Elusen 1097055

Cefnogi Ysgol plant y Brics

Diolch i bawb sy`n cefnogi`r ysgol yn rheolaidd ac a fu yn cefnogi digwyddiadau arbennig ac unigol.
Os am gefnogi`r elusen yn ariannol ewch I`n tudalen Donate/ Cyfrannu.

​ Yn ogystal ar ffyrdd arferol rydym yn awr yn cynnig y cyfle i gyfrannu trwy ddefnyddio
​
Just Giving. Ewch i dudalen Rhoddi .
.


Diolch o galon i Luke Jones am ddatganiad gwefreiddiol ar y piano yng Nghapel y Groes. Bu Luke yn cefnogi`r elusen ers blynyddoedd bellach ac mi fydd achlysur arall yn cael ei threfnu.


Gwyliwch ni ar Facebook. Cliciwch ar ​f isod


DIGWYDDIADAU.

Gweler ein tudalen "Newyddion" am ddigwyddiadau.


i

Ein Gwaith yn Nepal
Buom yn cefnogi addysg ym meysydd briciau
Kathmandu ers 2001. Mae gennym lawer o gefnogwyr a llawer o grwpiau sy`n cyfrannu at yr achos.
Aeth Carole Green i`r wlad i  ffilmio`r gyflafan. Gallwch wylio`r ffilm ar Facebook trwy glicio ar y llythyren f  i`r chwith o`r dudalen hon.
Yn 2017 aeth Kathryn Tresilian sy`n Olygydd gyda ITV Cymru i Nepal a gwnaeth gyfres o ffilmiau. Gallwch weld y rhain ar ein tudalennau Facebook.

Digwyddiadau 2019
Gweler ein Tudalen Newyddion am wybodaeth bellach


25ain Ionawr      Brickjam 3     Caerdydd
                   Diolch o galon i bawb a gefnogodd yr achlysur. Cafwyd noson fendigedig.
Mae ein diolch arbennig ni yn mynd i Emma o EJ Catering a phob busnes arall a gefnogodd ymdrechion glew Emma.

Ysgol Plant y Brics i Base Camp ,Everest
​Mae`r "trec" yn dechrau ar 1af o Fawrth . Hoffech chi gefnogi`r ymdrech hon?

Cinio Rhyngwladol Athrofa`r Cyfarwyddwyr (Institute of Directors)
Bydd Carole Greene ( ITV Cymru ac un o ymddiredolwyr YPB)  yn cadeirio y digwyddiad hyn yng Ngwesty`r Hilton yng Nghaerdydd ar 22ain Chwefror. Tocynnau ar gael-ewch i`n tudalen Newyddion.      
​
4ydd Chwefror     Cymdeithas Gymraeg Pontrobert a  Meifod


Am holl newyddion diweddaraf am yr ysgol ewch i`n tudalennau Facebook trwy glicio ar f yn y bocs ar y chwith

Powered by Create your own unique website with customizable templates.