Ysgol Plant y Brics - Fersiwn Cymraeg
  • Hafan
  • Beth A Wnawn
  • Ymddiriedolwyr
  • Cysylltwch A Ni
  • Noddi
  • Saesneg
Beth a wnawn ni
Rydym yn cefnogi y gweithwyr sy`n symud o`r bryniau wrth droed yr Himalayas i Ddyffryn Kathmandu i wneud briciau. Yn ystod y tymor sych mae`r teuluoedd yn byw mewn cabanau heb drydan,dwr glan na charffosiaeth.
Cynnigiwn addysg i blant ac oedolion. Am fwy o wybodaeth defnyddiwch y linc isod.



Picture

Beth a wnawn i`r plant?
  • Addysg
  • Pryd o fwyd a dwr glan bob dydd
  • Toiledau glan
  • Arolwg meddygol rheolaidd
  • Gwisg ysgol




Picture

Beth a wnawn i`r oedolion?
Cyrsiau ac addysg i oedolion ar amryw o bynciau. Iaith, mathemateg , gwnio





Sut y gwneir hyn
Gweithiwn gyda`n partneriaid yn Nepal, Kopila Nepa sydd wedi ei gofrestru fel NGO gan lywodraeth Nepal. Mae gennym bartneriaid hefyd yng Ngwlad Belg sy`n rhannu ein gweledigaeth. Gyda`n gilydd rydym yn cynnig ysgol/canolfan gymunedol a chyflogi athrawon o Nepal i wireddu ein breuddwyd.
Yn y DU rydym wedi ein cofrestru fel elusen (1097055) sy`n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr. Does dim costau uwchben ac felly mae pob ceiniog a godir er budd y plant.
                                                                                                                                                    Rhif Cofrestredig yr Elusen 1097055
Powered by Create your own unique website with customizable templates.